Sefydlwyd Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) gan y Senedd ym 1994 i roi grantiau i ystod eang o brosiectau a oedd yn cynnwys treftadaeth leol, ranbarthol a chenedlaethol y Deyrnas Unedig. Rydym yn dosbarthu cyfran o’r arian a godir gan y Loteri Genedlaethol ar gyfer Achosion Da.
Eleni, byddwn yn dyrannu tua £255 miliwn i brosiectau yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban. Ers 1994, mae CDL wedi dyfarnu £4 biliwn i fwy na 26,000 o brosiectau ledled y DU.
Yn swyddogol cawn ein hadnabod fel ‘corff cyhoeddus anadrannol’. Er nad ydym yn adran o’r llywodraeth, golyga hyn fod yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn rhoi cyfarwyddiadau ariannol i ni, ac rydym yn adrodd i’r Senedd drwy’r adran. Mae ein penderfyniadau ynglŷn â cheisiadau a pholisïau unigol yn gwbl annibynnol.
Gweinyddir CDL gan Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol sy’n dyrannu tua £10 miliwn y flwyddyn i’n treftadaeth genedlaethol, sy’n ymddwyn fel cronfa ‘yn niffyg dim arall’.