Mae Brian Barnard, saer maen o Aberhonddu, yn defnyddio’i sgiliau traddodiadol i helpu i ddiogelu’r dreftadaeth adeiledig oddi fewn i dirlun nodedig Blaenafon ac mae’r Bartneriaeth Tirluniau Angof yn chwilio am wirfoddolwyr newydd i chwarae eu rhan.
Prosiect y Tirluniau Angof, a ariennir gan grant o £1.4 miliwn oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri, yw’r darn olaf yn jig-so adfywiad Blaenafon a bydd yn gwella hyrwyddo’r safle ymhellach tra’n diogelu ei chymeriad hanesyddol. Yr amcan yw bod y tirlun yn chwarae rhan carreg gamu i mewn i Barc Rhanbarthol y Cymoedd ac yn borth i dwristiaeth y cymoedd
Mae’r safle’n cynnwys cyfoeth o dreftadaeth adeiledig a diwydiannol, yn cynnwys 17 o henebion cofrestredig a 109 o adeiladau rhestredig. Mae nifer o’r nodweddion o ddiddordeb ar hyn o bryd yn guddiedig ond fel rhan o’r prosiect yma, mae gwaith eisoes wedi dechrau ar adfer nodweddion archeolegol, megis twnnel Tramffordd Pwll Du a ddefnyddiwyd i gario glo, cerrig calch a haearn crai i’r gwaith haearn.
Mae’r prosiect yn darparu gwaith ar gyfer chwe gweithiwr gyda’r contractwr a leolir yn y Fenni Alun Griffiths (Contractors), sy’n cynnig amrywiaeth o sgiliau o waith saer maen i saer coed. Mae Brian Barnard wedi bod yn gweithio yn yr ardal fel saer maen am bron 40 mlynedd ac mae’n gweithio ar warchod y gwaith brics allweddol yn cynnwys y geuffos a’r argae yn Pen-ffordd-goch, oedd ill dau wedi dechrau adfeilio, ac o’r herwydd wedi niweidio’r ardal gyfagos.
Dywedodd Brian: “Mae’n wych bod yn gweithio ar brosiect sy’n mynd i fod o fudd i’r gymuned leol am flynyddoedd i ddod. Rydw i’n ffeindio bod gweithio ar brosiectau treftadaeth wir yn ddiddorol, oherwydd mae’n wahanol i’r gwaith dyddiol o adeiladu waliau cynnal ac rydw i’n teimlo mod i’n chwarae rhan mewn gwneud gwahaniaeth.
“Mae gweld pobl leol yn gweithio gyda’i gilydd i ddiogelu’r ardal yn amheuthun. Fydd ymwelwyr ddim bellach yn cerdded heibio i rannau o hanes heb fod yn ymwybodol o’r hyn maen nhw’n ei golli, oherwydd bydd yr henebion bychain, fel rydw i’n hoffi eu galw, unwaith eto mewn cyflwr perffaith ac wedi cael eu dehongli ar eu cyfer.”
Bydd ariannu CDL hefyd yn cefnogi cyflogi chwe aelod o staff yn cynnwys Cydlynydd Gwirfoddol. Gobeithir y bydd 50 o bobl leol yn cymryd rhan ac yn creu gweithlu helaeth o wirfoddolwyr er mwyn helpu pobl leol ac
ymwelwyr fel ei gilydd i wneud y gorau o’u profiad o’r tirlun. Bydd gwirfoddolwyr yn cael eu hyfforddi i ymgymryd â’r gwaith o reoli tir, cynnal arolygon a monitro yn ogystal â bod yn dywyswyr teithiau cerdded deongliadol.
Dywedodd Jennifer Stewart, Pennaeth CDL yng Nghymru: “Mae prosiectau fel Tirluniau Angof yn dangos bod yna alw gwirioneddol am sgiliau traddodiadol yng Nghymru. Mae hwn yn gyfle gwych i bobl leol i gymryd rhan a dysgu sgiliau newydd ac wrth wneud hynny chwarae eu rhan wrth fynd â’u treftadaeth yn ei flaen. Yn ogystal â hynny nid yn unig y safleoedd pwysig hyn fydd yn cael eu diogelu ond hefyd y sgiliau sydd eu hangen i’w cynnal a chadw ar gyfer y dyfodol.”
Dywedodd Steven Rogers, Rheolwr Datblygu Prosiect y Tirluniau Angof: “Wedi ei seilio ar ymgynghori helaeth yn gymunedol, mae’r prosiect hwn wedi cymryd tair blynedd i’w gynllunio. Mae’r tair blynedd nesaf yn ymwneud â chyflenwi ac mae’r tîm o 6 o Staff y Tirluniau Angof yn ysu i gael dechrau arni.”
- Diwedd -
Gwybodaeth bellach
Cysylltwch â Kate Sullivan neu Helen Newton ar 02920 764100 neu anfonwch e-bost at hlf@equinox-pr.co.uk