Heritage Lottery Fund homepage
10/09/2010 Hafan>default
Pwy ydym ni?
Sut i ymgeisio
Yn eich ardal chi
Canolfan Cyfryngau
Cyhoeddiau a gwybodaeth
Features



Mae mynediad i’r tudalennau ar y wefan hon a’r cynnwys a lwythir arni yn amodol ar y telerau a ganlyn:

 

Hawlfraint a’r defnydd a ganiateir

 

Cronfa Dreftadaeth y Loteri neu bartïon eraill sy’n berchen ar bob hawlfraint, hawl cronfa ddata a hawliau eraill sy’n bodoli yn yr hafan ac ar dudalennau is-barth y wefan hon.

 

Yn amodol ar yr hyn a ddywedir isod, gellir lawrlwytho deunydd o’r wefan, edrych arno, ei argraffu, ei gopïo ar ddisg caled eich cyfrifiadur (ond nid ei lungopïo) i wneud cais am grant neu fel arall er eich defnydd personol neu ddibenion mewnol â gonestrwydd.  Ac eithrio yr hynny sy’n cael ei ganiatáu’n benodol gan y gyfraith, mae angen ein caniatâd ysgrifenedig cyn gwneud unrhyw ddefnydd gwahanol o’r wefan.

 

Nid yw’r caniatâd i atgynhyrchu deunydd hawlfraint o’r wefan yn ymestyn i unrhyw ddeunydd ar y wefan a nodir fel hawlfraint trydydd parti. Rhaid cael awdurdod deiliaid yr hawlfreintiau perthnasol i atgynhyrchu’r fath ddeunydd.

 

Rydych yn cytuno i beidio â chreu cronfa ddata (electronig neu fel arall) sy’n cynnwys deunydd wedi’i lawrlwytho, neu a gafwyd fel arall, o’n gwefan, nac i drosglwyddo neu ailddosbarthu unrhyw ddeunydd a gafwyd o’n gwefan i unrhyw drydydd parti, neu i symud y rhybudd(ion) hawlfraint neu nod masnach o unrhyw gopïau o unrhyw ddeunydd a wnaed yn unol â’r telerau hyn. 

 

Cynnwys

 

Darperir y wybodaeth ar y wefan hon er cyfleustra, fel rhan o’r gwasanaeth yr ydym yn ei gynnig.  Fodd bynnag, lle mae gwybodaeth yn deillio o’r tu allan i Gronfa Dreftadaeth y Loteri, ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am ei chywirdeb na’i chynnwys.  Mae ymwelwyr sy’n dibynnu ar y wybodaeth hon yn gwneud hynny ar eu menter eu hunain. 

 

Nid yw Cronfa Dreftadaeth y Loteri’n gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd unrhyw wefannau sy’n gysylltiedig â’n gwefan ni, ac nid yw o reidrwydd yn cefnogi’r farn a fynegir ynddynt.  Ni chymerir rhestru fel cefnogaeth o unrhyw fath.  Ni allwn warantu y bydd y cysylltiadau hyn yn gweithio drwy’r amser, ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros argaeledd y tudalennau cysylltiedig. 

 

Ni all Cronfa Dreftadaeth y Loteri warantu y bydd eich defnydd o’r wefan yn rhydd o wallau ac/neu yn ddi-dor. 

 

Er y gwnaed pob ymdrech rhesymol i sicrhau bod tudalennau’r wefan a’r deunydd y gellir ei lawrlwytho ohoni yn rhydd o firysau, nid yw Cronfa Dreftadaeth y Loteri’n gwarantu eu bod yn rhydd o firysau, ac mae defnyddwyr yn gyfrifol am sicrhau eu bod wedi gosod meddalwedd gwirio firysau digonol. 

 

Polisi Preifatrwydd

 

Os ydych yn anfon gwybodaeth amdanoch chi atom o’r wefan hon, heblaw ein bod yn datgan fel arall, ni fyddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon mewn unrhyw fodd heblaw i ateb eich ymholiad neu ar gyfer y pwrpas penodol.  Efallai y byddwn yn cadw cofnod o’ch ymholiad er mwyn ein cynorthwyo i ddatblygu ein gwasanaethau. 

 

Os ydych yn gofyn am gael ymuno â’n rhestr bostio, efallai y byddwn yn anfon gwybodaeth atoch ynglŷn â Chronfa Dreftadaeth y Loteri, neu’n cysylltu â chi o bryd i’w gilydd ynglŷn â’n busnes.  Gadewch i ni wybod os ydych yn dymuno i gael eich tynnu oddi ar y rhestr bostio neu os yw’r wybodaeth amdanoch yn newid. 

 

Enwau a logos

 

Mae’r enwau, y delweddau a’r logos sy’n dynodi Cronfa Dreftadaeth y Loteri neu drydydd partïon a’u cynhyrchion a’u gwasanaethau yn nodau perchnogol Cronfa Dreftadaeth y Loteri, a/neu drydydd partïon.

 

Amrywiadau

 

Gellir amrywio’r telerau hyn o bryd i’w gilydd.  Sicrhewch eich bod yn adolygu’r telerau a’r amodau hyn yn rheolaidd gan yr ystyrir eich bod wedi derbyn amrywiad os ydych yn parhau i ddefnyddio’r wefan hon ar ôl i unrhyw amrywiad gael ei nodi.

 

Cronfa Dreftadaeth y Loteri

 

Cronfa a weinyddir gan ymddiriedolwyr Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol, corff corfforaethol, yw Cronfa Dreftadaeth y Loteri.  Ystyrir bod yr holl gyfeiriadau at Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn y telerau hyn ac ar y wefan hon yn gyfeiriadau at ymddiriedolwyr Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol.