Heritage Lottery Fund homepage
10/09/2010 Hafan>Yn eich ardal chi>Cymru>Cymru
Yn eich ardal chi
East of England
East Midlands
London
North East
North West
Northern Ireland
Scotland
South East England
South West
Cymru
West Midlands
Yorkshire & the Humber
Pwy ydym ni?  Sut i ymgeisio  Canolfan Cyfryngau  Cyhoeddiau a gwybodaeth 




Cymru
Rydym yn awyddus i gydweithio â grwpiau lleol a rhanbarthol i ddatblygu prosiectau a fydd yn rhoi gwell cyfle i bobl brofi, mwynhau, gwarchod a gofalu am ein treftadaeth. Rydym yn hapus i drafod darpar geisiadau gyda chi. Am wybodaeth bellach, cysylltwch â ni yn:

Ystafell 5A, Tŷ Hodge
Plas y Neuadd, Caerdydd, CF10 1DY
Ffôn: 029 2034 3413
E-bost: cymru@hlf.org.uk
Map o swyddfa Cymru

Gwasanaeth Cyn Ymgeisio
Rydym yn croesawu’r cyfle i roi cyngor cynnar i chi am eich prosiect. P’un a oes angen £500 neu £500,000 ar eich prosiect, rydym yn argymell i chi gysylltu â ni cyn gynted â phosibl. Bydd ffurflen cyn ymgeisio ar gael cyn bo hir i'w llenwi a'i dychwelyd.  Wedyn byddwn yn cysylltu’n ôl a chi cyn gynted ag y gallwn gyda rhywfaint o gyngor am eich prosiect a pha mor addas ydy ar gyfer grant CDL.

Dyddiadau Cyflwyno a Phenderfynu ar gyfer Grantiau Bychain
Gan fod cystadleuaeth ffyrnig ar gyfer y rhaglenni Eich Treftadaeth a Gwreiddiau Ifanc rydym wedi cyflwyno proses newydd am asesu ceisiadau a gwneud penderfyniadau arnynt nhw.  Mae hyn yn golygu y byddwn yn asesu ceisiadau, a dderbyniwyd gennym yn ystod yr un fis, yn erbyn meini prawf y rhaglen ond byddant nhw'n cystadlu yn erbyn eu gilydd yn y cyfarfod pan gwneir penderfyniadau.  Cliciwch yma i weld dyddiadau cau a phenderfynu.

Dyddiadau Cyflwyno a Phenderfynu ar gyfer Grantiau Treftadaeth
Cliciwch yma i weld dyddiadau cau a phenderfynu ar gyfer ceisiadau Grantiau Treftadaeth a fydd yn mynd o blaen cyfarfodydd Pwyllgor Cymru a Bwrdd Ymddiriedolwyr.

Trefnwch Apwyntiad
Dewch i gael gwybod am ein sesiynau cynghori a’n ffeiriau cyllid.

Blwyddyn Bioamrywiaeth 2010
2010 ydy Blwyddyn Ryngwladol Bioamrwyiaeth ac mae pobl o gwmpas y byd yn cael eu hannog i ddiogelu ein treftadaeth naturiol byd-eang a lleihau cyfradd colled bioamrywiaeth.  Rydym yn cefnogi’r fenter hon ac rydym eisiau mwy o sefydliadau i wneud ceisiadau am arian gennym ar gyfer prosiectau sydd yn gwarchod treftadaeth naturiol gwerthfawr y DU.  Cliciwch yma i ddarllen ein nodiad arweiniol Meddwl am fioamrywiaeth.

Enghreifftiau o Brosiectau a Dyfarniadau Diweddar 
Cliciwch yma i ddarllen enghraifftiau o brosiectau a ariennir gennym ni.

Cynllun Iaith Gymraeg
Fe gafodd ein Cynllun Iaith Gymraeg ei gymeradwyo gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar 28 Mehefin 2007.  Cliciwch yma i lawrlwytho copi’r Cynllun.


Newyddion
Hwb i Drecelyn
Gwirfoddolwyr yn sicrhau ariannu i adnewyddu neuadd y ‘Memo’ fel canolbwynt y gymuned
Mwy>>
Treftadaeth Naturiol
Penrhyn Llŷn
CDL yn rhoi hwb i’r Fro Gymraeg i sicrhau dyfodol cynaliadwy
Mwy>>
Galwad am Gymorth
Angen gwirfoddolwyr i chwarae eu rhan i gynnal Castell y Mwmbwls
Mwy>>
CYSYLLTIADAU DEFNYDDIOL

  • Cylchlythyr Cymru (pdf, 366KB) 
  • Effaith (pdf, 1.55MB)
  • Gwneud Gwahaniaeth (pdf, 458KB)
  • Materion Treftadaeth Cymru (pdf, 269KB)
  • Sut i ymgeisio   
  • EIN TîM
  • Proffil y rheolwraig
  • Proffil y pwyllgor

    Cronfa Dreftadaeth y Loteri - Cymru / Heritage Lottery Fund - Wales